Telerau ac Amodau’r Wefan

Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori trwy’r wefan hon a’i defnyddio, byddwch yn cytuno i gydymffurfio â, a bod yn rhwym wrth, y telerau ac amodau defnyddio a ganlyn sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn sail i berthynas Hafren Scientific â chi o ran y wefan hon. Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, yna peidiwch â defnyddio ein gwefan.

Mae’r term ‘Hafren Scientific’ neu ‘ni’ neu ‘rydym’ yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 1 Ravenscroft Court, Parc Menter Buttington Cross, Y Trallwng, Powys SY21 8SL Y DU.
Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio ar y sawl sy’n defnyddio neu’n edrych ar ein gwefan.
Mae defnyddio’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnyddio a ganlyn:

• Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er eich defnydd a’ch gwybodaeth gyffredinol yn unig. Gall newid yn ddirybudd.

• Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Gwelwch y dudalen ar ein Polisi Preifatrwydd.

• Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn cynnig unrhyw sicrwydd na gwarant ynglŷn â manwl gywirdeb, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys gwallau neu gamgymeriadau ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu gamgymeriadau o’r fath hyd eithaf yr hyn a ganiateir yn ôl y gyfraith.

• Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn llwyr ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol amdanynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn bodloni eich gofynion penodol.

• Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sy’n drwyddedig i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, dyluniad, cynllun, golwg, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir ei atgynhyrchu oni bai bod hynny’n unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau ac amodau hyn.

• Caiff pob un o’r nodau masnach a atgynhyrchir yn y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i’r gweithredwr neu’n drwyddedig iddo, eu cydnabod ar y wefan.

• Gall defnyddio’r wefan mewn modd sydd heb ei awdurdodi arwain at hawliad am iawndal a/neu fe all fod yn drosedd.

• O bryd i’w gilydd, gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn i’w gwneud yn gyfleus ichi gael mwy o wybodaeth. Nid ydynt yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y wefan/gwefannau y mae dolenni iddi/iddynt.

• Mae cyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn berthnasol i’ch defnydd o’r wefan hon, ac unrhyw anghydfod sy’n codi yn sgil y defnydd hwnnw.

Cael gwybod mwy am Hafren Gwyddonol