Cwmnïau Gweithredu
Ymgynghoriaeth gwyddor daear o ansawdd uchel yw Chemostrat, yn darparu gwasanaethau cydberthyniad a tharddiad arbenigol i’r diwydiant olew a nwy ledled y byd. Mae gennym ni swyddfeydd, labordai ac adnoddau deongliadol yn y DU, Houston a Perth, Awstralia sy’n gallu darparu gwasanaeth ymatebol a phersonol i’n cleientiaid. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn sefydlu cemostratigraffeg fel techneg y prif ffrwd. Yn fwy diweddar, mae ein hethos ynglŷn ag arloesedd, ansawdd a gwerth am arian wedi’i estyn trwy sefydlu ‘Matrics Gwasanaeth’ y mae modd ei addasu i fynd i’r afael ag amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â stratigraffeg, tarddiad, palaeoamgylchedd ac ansawdd cronfeydd dŵr i’n cleientiaid. Mae Chemostrat hefyd wedi datblygu ystod lwyddiannus o adroddiadau rhanbarthol digyfyngol sy’n rhoi agweddau ar lif gwaith a thechnegau arloesol y ‘Matrics Gwasanaeth’ ar waith i ddarparu atebion blaengar i brosiectau o Fôr y Gogledd, Norwy, glandiroedd yr Iwerydd, Canada ac Affrica. Mae nifer cleientiaid Chemostrat ar gynnydd o hyd, ond mae ein cymhwysedd technegol yn dal i fod heb ei ail yn y sector gwasanaethau olew. Mynd i wefan Chemostrat.
Mae Origin Analytical yn darparu ardystiad ISO9001:2008 ac yn gweithredu’n annibynnol ar Chemostrat, gan ddarparu data geocemegol, mwnyddol, magnetig ac isotopig i weithredwyr y diwydiant olew a chwmnïau gwasanaethu fel ei gilydd. Gyda labordai yn y DU, Houston a Perth, gall y cwmni gynnig gwasanaethau brys i gefnogi penderfyniadau ynglŷn â drilio datblygiadol. Cynigir gwasanaethau Origin Analytical hefyd yn y sectorau mwyngloddio ac ailgylchu metelau, ar gyfer monitro amgylcheddol ac ar gyfer dadansoddi arteffactau mewn astudiaethau archaeolegol. Mynd i wefan Origin Analytical.
Fe ddyfeisiodd Chemostrat gemostratigraffeg ar gyfer safleoedd ffynhonnau yn 2000, ac yn sgil hyn daeth cynghrair 10 mlynedd â Halliburton, a sefydlwyd y gwasanaeth LaserStrat. Aeth Chemostrat ati i wneud gwaith ymchwil a datblygu offerynnau, i ddarparu staff i’w rhoi ar waith ar safleoedd ffynhonnau, ac i gwblhau nifer o astudiaethau peilot cyn-drilio ar gyfer y gwasanaeth hwn. Yn 2012, daeth cynghrair Chemostrat â Halliburton i ben ac mae bellach wedi sefydlu gwasanaeth cemostratigraffeg a mwynyddiaeth annibynnol a chynhwysfawr ar gyfer safleoedd ffynhonnau. Mynd i wefan Wellsite.







